Y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
(CLA(4)-02-11)
CLA5
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol
Teitl: Gorchymyn Hawl Plentyn i Wneud Hawliad Gwahaniaethu ar sail Anabledd (Ysgolion) (Cymru) 2011
Gweithdrefn: Gadarnhaol
Roedd Mesur Addysg (Cymru) 2009 (“y Mesur”) yn diwygio Rhan 4 o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995, a oedd yn ymwneud â gwahaniaethu mewn ysgolion, er mwyn galluogi plant eu hunain i wneud hawliad gwahaniaethu ar sail anabledd, i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Diddymir Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Mae’r Gorchymyn hwn, a wnaed o dan adran 20 o’r Mesur, yn diwygio’r Mesur drwy ddileu’r darpariaethau a oedd yn diwygio Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995, a gosod darpariaethau cyfatebol a darpariaethau priodol eraill yn eu lle, sy’n diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010.
Craffu technegol
Ni wahoddir y Cynulliad i dalu sylw arbennig i’r offeryn hwn o dan Reol Sefydlog 15.2:-
Craffu ar rinweddau
Gwahoddir y Cynulliad i dalu sylw arbennig i’r offeryn hwn o dan Reol Sefydlog 21.3 am y rhesymau canlynol –
Gwneir yr offeryn hwn o dan amgylchiadau unigryw. Pan ystyriwyd y Mesur gan y Cynulliad roedd newidiadau eang i ddeddfwriaeth cydraddoldeb yn cael eu hystyried yn San Steffan. Fodd bynnag, nid oedd yn amlwg beth fyddai ffurf derfynol y newidiadau hynny, na’r amserlen ar gyfer eu gweithredu. Oherwydd hynny, rhoddodd y Mesur i Weinidogion Cymru y pŵer anghyffredin y cyfeirir ato uchod i wneud diwygiadau helaeth i fesur a oedd yn cael ei ystyried gan y Cynulliad.
Mae adran 20 o’r Mesur yn cyfyngu ar natur y diwygiadau a ganiateir, ond oherwydd bod y newidiadau yn sgil Deddf Cydraddoldeb 2010 mor eang, nid yw’r diwygiadau yn adlewyrchu’n union y ddeddfwriaeth a basiwyd gan y Cynulliad. Mae’r diwygiadau a wneir i’r Mesur gan y Gorchymyn hwn yn cyfateb mor agos ag sy’n ymarferol i’r hyn a gytunwyd gan y Cynulliad, gan sicrhau bod yr hawliau a roddwyd i blant gan y Mesur yn cael eu gwarchod o dan y gyfundrefn newydd.
David Melding AC
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
29 Mehefin 2011